gwener | sadwrn | sul
Tim Short & Ruby Samba
Rhoddodd Ruby Samba perfformaid gwefreiddiol yn Llanymddyfri yn 2009.Tamed yw hi ond mae ganddi lais sy'n creu argraff, heb anghofio cyfeilio dawnus ei thad Tim , ar y gitar.
www.rubysamba.comJosh Doughty
Mae Josh, sy'n hanu o ganolbarth Cymru, yn canu'r kora ers pan oedd yn 8 mlwydd oed. Ei dad Adam Doughty oedd ei athro cyntaf. Dros y blynyddoedd, mae wedi ei ddysgu gan nifer o berfformwyr kora sy'n byw ym Mhrydain: Seikou Keita, Filli Cissokho a Surahata Suso. Yn 2007 aeth i Senegal i astudio gydag Aliou Gassama. Hefyd yn 2007, ac eto yn 2008, cafodd wahoddiad i fynd i Mali i astudio gyda Toumani Diabate yn ei dy. Mae wedi perfformio mewn amrywiaeth o leoliadau fel unawdydd ac mewn nifer o fandiau trawsddiwylliannol.
Urbantramper (New Zeland)
Band o Aotearoa, Seland Newydd. Mae rhai pobl yn meddwl ei bod hi'n baradwys yma. Mae'r gwirionedd yn dywyll ac yn mynd yn dywyllach. Does dim parch gan ein llywodraeth at yr amgylchedd ac mae ein heconomi'n ddibynnol ar odro ar raddfa ddiwydiannol. Mae hyn yn fy mhoeni... yr eiddoch yn gywir, Urbantramper - trio yfed llai o laeth, bwyta mwy o lysiau, rhoi mwy o shit i'r llywodraeth a gyrru llai o geir... ers 2001. (cyn hynny, ro'n ni jyst yn bwyta donyts a smoco pot). Mae'n dweud y cyfan, band cwyrci!
urbantramper.comFugitives I'w Cadarnhau
Band blws uchel eu parch o'r De sy'n canu â llais blws delta Llanelli wedi ei farinadu mewn cennin a bara lawr a'i hongian i sychu mewn llond casgen o SA cyn cael ei gymryd tu fas a'i sathru gan 'sgidie mwdlyd.
Fernhill
"Mae band gwerin pwysicaf Cymru yn creu cerddoriaeth hyfryd ers blynyddoedd nawr. Cerddoriaeth werin ond nid fel 'rym ni'n ei 'nabod. Mae llais Julie yn atgofus ac yn anhygoel o leddfol, yn adrodd hanesion o dristwch a phrydferthwch ... mor syml roedd e'n syfrdanol" Huw Stephens BBC Radio 1
www.fernhill.info

