O Gilycwm mae'r heol yn dringo i fyny drwy gwm glas Rhandirmwyn cyn cyrraedd unigrwydd Llyn Brianne sydd ar y ffin rhwng Sir Gâr a Cheredigion. Dyma gynefın y cudyll coch a milltir sgwar yr herwr a'r cymeriad chwedlonol hoffus Twm Sion Cati. Mae'n debyg eı fod wedi cuddio am gyfnodau mewn ogof gyfagos. Mae'r ardal yn wych ar gyfer cerdded, gwersylla a gwerthfawrogi llonyddwch ac unigedd cefn gwlad.

