Gwyl y Cenhedloedd Bychain 2010 Beth Sy Mlaen
diweddarwyd:15/06/2010 saesneg

gwener | sadwrn | sul

Bamo (Cwrdistan)

Bamo (Cwrdistan)

Dyma nhw nôl. Roedd ein ffrindiau o Gwrdistan a gafodd pawb i ddawnsio mewn cylch i gerddoriaeth werin Cwrdistan yn gwybod sut i wneud sioe yn 2009 a dyna oedd eu sioe gyntaf erioed! Byddwch chi'n ffaelu cadw'n llonydd

Bellevue Rendezvous (Yr Alban)

Bellevue Rendezvous (Yr Alban)

Ffurfiwyd Bellevue Rendezvous yn 2006 o ganlyniad i gariad tri pherson o alawon hynod ac amrywiol o bedwar ban byd. Y triawd - a'u cyfuniad anarferol o offerynnau - yw Gavin Marwick, (ffidil) Ruth Morris, (nyckelharpa) a Cameron Robson (bwswci). Yn eu repertoire ar hyn o bryd mae llawer o alawon gwreiddiol, yn ogystal â cherddoriaeth o'r Alban, Iwerddon, Lloegr, Cymru, Serbia, Ffrainc, Llydaw, Macedonia, Gwlad Pwyl, Canada, y Ffindir a Sweden.

Marc Egea (Catalwnia)

Marc Egea (Catalwnia)

Ganwyd Marc yn Barcelona ym 1973, ac astudiodd athroniaeth, flabiol (ffliwt Catalwnia), gitâr, hyrdi-gyrdi a harmoni. Dechreuodd ei yrfa fel cerddor proffesiynol ym 1990 gyda'r triawd "Músics de Safeu" ac yn ddiweddarach gyda "Pont d'Arcalís". Mae'n aelod o BiB (Banda d'Improvisadors de Barcelona neu Band Byrfyfyr Barcelona.) Mae wedi cyfansoddi llawer o weithiau - ar gyfer ensemble pres, darnau symffonig, cerddoriaeth siambr, darnau corawl, ac ati. Ef yw awdur llyfr dysgu'r hyrdi-gyrdi "Iniciació a la fiola de roda" (Dechrau gyda'r hyrdi-gyrdi) (DINSIC, 2008).

www.marcegea.com Marc Egea (Catalonia)

Masters in France

Masters in France

O ludw Frisbee fe gododd y rhythmau tywyll Alt Indi hyn.

Yucatan - ein hoff fand Cymreig gydag ensemble llinynnol

Yucatan - our fav Welsh band with a string ensemble

Sain gain, dyner a meistrolgar o gytbwys, cerflun nefolaidd torcalonnus sy'n chwyddo trwy'r strociau brwsh meddal, tonnog a'r geiriau'n ychwanegu elfen o ddirgelwch. Mewn gwirionedd, allwch chi ddim llai nag ildio wrth i'r trefniannau gwasgu chwyddo, cwympo a'u lapio'u hunain o'ch amgylch wrth i'r gerddoriaeth ledu o agosatrwydd mewnsyllgar i lawenydd sy'n llethu'ch enaid.

Last Chance Saloon

Last Chance Saloon

Rhythm a Blws melodig, ffynci, gydag awgrym o roc gwlad a rhythmau cŵl, llawn enaid. Byddwch chi'n dawnsio ... Garantîd!

www.lastchancesaloon.biz

Gareth Pearson

Gareth Pearson

Mewn llai na phum mlynedd mae wedi tyfu o rywun cymharol anadnabyddus oedd yn hoffi'r gitâr i berfformiwr proffesiynol sydd bellach yn perfformio mewn llawer rhan o'r byd. Mae ei boblogrwydd yn parhau i dyfu wrth i rai o fawrion y gitâr gan gynnwys Jan Akkerman a Tommy Emmanuel ei wahodd i berfformio gyda nhw ar daith. Ychwanegwch ei ganu nodweddiadol a'r canlyniad yw un o'r gitaryddion newydd mwyaf datblygedig a flodeuodd erioed.

www.garethpearson.com

Omega 66

Omega 66

Rhythmau ffync a melodaidd

www.omega66.com

Subsource

Subsource

Mae electronica breakbeat gorwyllt y pumawd hwn wedi denu cymariaethau â'r Prodigy a Pendulum - efallai nad yw hynny'n syndod pan ystyriwch taw John Davis, sydd hefyd wedi gweithio gyda'r ddau fand uchod, oedd peiriannydd eu halbwm cyntaf Tales From The Doombox.

www.subsource.co.uk

Valid CSS! Valid XHTML 1.0 Transitional