gwener | sadwrn | sul | gweithdai | plant
I gychwyn y gweithgareddau ar nos Wener bydd cylch drymio, digonedd o stondiau, llwyth o gerddoriaeth a digon o lefydd i grwydro Bydd amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnal yn ystod y Sadwrn - gweithdy sgrap gyda Trysordy, gweithdai cerdd, paentio traed gyda Footprint Friends a Pwnsh a Jiwdi. Os yw'r plant wedi eu weindio cerwch a nhw draw at yr gornel iachau, neu neidwch ar y bws ac ewch lawr i'r pwll nofio yn Llanymddyfri neu i'r rec ym mhentref Cil-ycwm.
Ar y Sul gallant gwneud yr un peth unwaith eto!... neu ymuno yn y gweithdy drymio, yoga, chwarae llwyau, a jiwdo. Bydd mwy o wybodaeth am y gweithgareddau ar gael yn y ganolfan wybodaeth.
Mae croeso i'r plant grwydro o gwmpas safle yr wyl ond byddwch yn ymwyboddol bod trafnidiaeth yn mynd a dod drwy'r dydd. Hefyd cofiwch bod Glangwenlais yn cael ei ffermio ac er mwyn sicrhau diogelwch eich plant cadwch draw rhag yr anifeiliaid a'r peiriannau.
Bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal drwy'r dydd, ond os ichi am saib, byddwn yn darparu gemau bwrdd ar eich cyfer o'r ganolfan wybodaeth hefyd.

