11/04/2008
Ar Ebrill 10fed cyhoeddwyd bod BASSEKOU KOUYATE & NGONI BA wedi bod yn fuddugol yn nghategori yr artist gorau o Affrica
Ar Ebrill 10fed cyhoeddwyd bod Bassekou Kouyate a Ngoni Ba wedi bod yn fuddugol yn nghategori yr artist gorau o Affrica, yng nghystadleuaeth Gwobrau Miwisg Byd Radio 3. Mae'i wedi bod yn flwyddyn anhygoel o lwyddianus i Bassekou ers iddo ryddhau ei albwm gyntaf "Segu Blue", sydd wedi derbyn clod mawr. Cwblhaodd dwy daith o gwmpas Ewrop, ac ymddangos yn rhai o brif wyliau y cyfandir ac ar rhaglen Jools Holland ... a chewch chi'r cyfle i'w weld ef eleni ar lwyfan y Cenhedloedd Bychain!!!
06/05/2008
Albwm ddiweddaraf Lowri Evans
Mae Lowri newydd ddechrau recordio album newydd ac yn gobeitho ei rhyddhau yng Ngŵyl y Cenhedloedd Bychain yng Nghil-y-cwm ar Gorffennaf 12fed.
09/04/2008
TOCYNNAU PRYDLON WEDI'U GWERTHU
Mae'r tocynnau prydlon wedi'u gwerthu. Mae tocynnau pris llawn ar gael o'n swyddfa yn Abertawe.
28/03/2008
MAE'N TAFLENNI WEDI MYND I'R WASG
Byddant yn cael eu postio at bawb ar y rhestr bostio wythnos nesaf. os ichi am dderbyn copi anfonwch eich cyfeiriad at Dick. Neu lawrlwythwch 2008 leaflet in.pdf (5 MB) a 2008 leaflet outside.pdf (5 MB).
28/03/2008
MAE'R SWYDDFA DOCYNNAU YN AGOR AR Y 7ED EBRILL
Gwerthir y 150 tocyn cyntaf am bris gostyngedig o £50. Mae'r swyddfa docynnau newydd yn Abertawe: gweler tocynnau am fanylion.
14/03/2008
Dai Kouyate... Sori dau Kouyate ar gyfer yr ŵyl!
Eleni rydym wedi bod yn lwcus iawn i sicrhau ymddangosiad gan Bassekou Kouyate ar y nos Wener a N'Faly Kouyate ar y nos Sadwrn. "Kouyate" yw'r gair Manding am "gerddor", a daw'r ddau o Orllewin Affrica. Mae'r ddau yn cyflwyno cerddoriaeth gwahanol iawn i'w gilydd ond yn ennyn clôd mawr am eu perfformiadau ar lwyfannau Ewrop. Mae Bassekou newydd orffen teıthıo gyda Damon Albarn ac wedı derbyn canmoliaeth ym mhapurau yr Independent a'r Observer.
25/03/2008
Mae Mordekkers yn chwilio am gymorth
... chwaraewr bas a drymiwr ... Ffoniwch Peni 01558 824339
www.mordekkers.co.uk

