2002 Cerddoriaeth o Fadagascar
Heuwyd yr hedyn yn 2002 pan benderfynodd Thelma fy ngwraig, a minnau godi arian i elusen o'r enw "Money for Madagascar". Roeddwn ni wedi gweithio gyda cerddor o'r ynys honno, Justin Vali, ers blynyddoedd, ac roedd yn gyfle felly i'w wahodd draw i Gymru. Yn anffodus fethodd Justin a chyrraedd Lanwrda, ond daeth 300 o bobl draw 'co a godwyd £1000 at yr achos. Yn sgil llwyddiant y penwythnos hwnnw, daeth criw ohonnom i benderfyniad annoeth ıawn - i gynnal gŵyl mwy o faint i lwyfannu artistiaid Cymreig a pherfformwyr o wledydd a diwylliannau lleiafrifol.
2003 Gŵyl gyntaf y Cenhedloedd Bychain
Symudodd y safle i fferm Glangwenlais yn 2003, diolch i garedigrwydd Mair a Tegwyn Davies. Roeddent eisioes wedi llogi eu hysgubor allan i gynnal cyfres o gigs Cymraeg - sydd bellach wedi'u cymhathu i fewn i ddathliadau Gŵyl Bro Dinefwr (a drefnir gan y fenter iaith leol).
Ehangwyd yr ŵyl i ddau ddiwrnod, daethpwyd a stondinau i'r maes a daeth bandiau o Bolynesia, Senegal a Chymru ynghŷd i berfformio. Yn anffodus gorlwythwyd y sustem drydanol a bu rhaid i'r nos Sadwrn droi'n noson acwstig (Llwyddiannus tu hwnt, serch hynny!). Er gwaetha'r anhawster, cafwyd amser da gan y perfformwyr a'r gynulleidfa.
2004 - 2005 Gwyliau y Cenhedloedd Bychain
Yn adeiladu ar lwyddiant 2003, cyflwynwyd llwyfan acwstig i'r Wyl. Perfformiodd Eleanor McEvoy, Justin Vali, Amy Wadge a Yat Kha o Tuva. Daeth rhyw 350 o bobl draw y flwyddyn honno. Cynhaliwyd amryw o nosweithiau cerddorol o amgylch y fro, gydag artistiaid o Gymru a thramor. Cafwyd cymorth ariannol gan nifer o grantiau, a leddfodd tipyn ar y sefyllfa ariannol. Bum yn lwcus iawn yn cael tywydd braf yn 2005 wnaeth ychwanegu cymaint tuag at naws a hwyl yr ŵyl.

