Os ichi am chwarae yn yr ŵyl, dyma'r drefn:
Rydym yn dueddol o osgoi cerddoriaeth brif-ffrwd Eingl Americanaidd a chreu cysylltiadau rhwng cerddoriaeth Cymru a chenhedloedd bychain eraill.
Nı fyddwn yn bwcio perfformwyr o Loeger oni bai eu bod yn cynrychioli diwylliant lleiafrifol neu yn cynnig rhywbeth amgen a gwerth ei glywed.
Os ydych yn berfformwyr ifanc/newydd, mae gennym nifer cyfyngedig o gyfleoedd"showcase", hynny yw gewch chi ddim ffi, ond cyfle i chwarae ar lwyfan a derbyn yr un gwrandawiad a bandiau proffesiynol.
Rydym wastad yn cadw rhestr o berfformwyr addas wrth gefn, rhag ofn i eraill dynnu allan.
Rydym yn ceisio osgoi cerddoriaeth MOR ond yn croesawu pob arddull, ond yn bennaf oll gwreiddioldeb.
Ni fyddwn yn bwcio yr un act am ddwy flynedd yn olynol.
Bydd y perfformwyr yn derbyn tocynnau bwyd i wario yn y stondiau bwyd ar y maes.
Rydym yn darparu llety rhad ac am ddim ar gyfer artistiaid sydd ar daith.
Nid ydym yn talu costau teithio, felly os ichi yn hannu o bellteroedd byd, bydd angen ichi ariannu eich trip eich hun.
Gallwch anfon deunydd atom drwy'r:
Post - gyrrwch CD/DVD/CDRom a disgrifiad o'ch cerddoriaeth, unrhyw adolygiadau a llun.
E-bostiwch Gaynor gyda adborth eich gwefan a phwt am eich cerddoriaeth, os yw'r sain a'r llun yn safonol bydd dim angen anfon CD a lluniau atom.
A wnewch chi grybwyll eich bod wedi darllen y canllawiau uchod.
Manylion cyswllt ar y dudalen cyswllt.
Os ichi am fasnachu yn yr ŵyl, darllenwch ymlaen:
Rydym yn awyddus i ddarparu amrywiaeth o stondinau bwyd, iechyd amgen a nwyddau ar gyfer cynulleidfa o 1500. Os oes diddordeb gyda chi i ddod â stondin i'r safle, cysylltwch gyda Sara am fwy o wybodaeth.
Gall stiwardio yn yr ŵyl rhoi lot o foddhad. Dyma beth sydd angen chi ei wneud:
Rydym wastad yn chwilio am wirfoddolwyr i'n cynorthwyo yn ystod y penwythnos. Dyma ffordd arbennig i gyfrannu tuag at lwyddiant yr ŵyl. Rydym yn trefnu shiffitiau i wirfoddolwyr ac yn darparu tocyn gwersylla a maes am ddim ar eu cyfer. Nid oes angen profiad blaenorol ond digon o synnywr cyffredin a synnwyr digrifwch! Os oes diddordeb gennych cysylltwch â Owen.

