Small Nations Festival 2008 Friday Line Up

gwener:

Bydd y llwyfan acwstig (Cilycwm) yn cychwyn yn lleddf ar y nos Wener gyda seiniau unigryw Georgia Ruth Williams ar y delyn.

diweddarwyd: 08/07/2008 saesneg

gwener | sadwrn | sul | gweithdai | plant

Draw ar lwyfan y Dderwen bydd Samba Galez yn iro cymhalau dawnsio y gynulleidfa yn barod ar gyfer yr artistiad gwych sydd gennym ar eich cyfer. Daw'r noson i'w huchafbwynt gyda pherfformiad Bassekou Kouyate and N'goni Ba (Enillwyr prif Gwobr Miwsig Byd Radio 3, 2008)

... ond peidiwch a hasti gartref achos bydd Chaos Theory a Cult of Osiris yn troelli tan yr oriau man.

Bedouin Jerry Can Band, Brigyn, Can A Tir, Ffynnon, HQ, Rainy And The Dust , Steve Eaves, Y Rei

BASSEKOU KOUYATE & NGONI BA (Mali)

BASSEKOU KOUYATE & NGONI BA (Mali)

Cychwynodd y blŵs yn Affrica yn nyddiau caethiwed, ac mae Bassekou yn chwarae yn y traddodiad yma ond yn ychwanegu elfennau o ffync sy'n creu synau gwefreiddiol. Mae Bassekou yn feistr ar y ngoni, offeryn llinynnol y griot, ac yn hannu o linach cerddorion traddodiadol Mali. Cafodd ei fagu mewn ardal wledig cyn symud i ddinas Bamoko yn 19 oed.

Daeth ei ddoniau i'r amlwg ar albwm y diweddar Ali Farka Toure a rhyddhawyd ar ol marwolaeth y perfformiwr blws enwog. Mae hefyd wedi chwarae yn gyson gyda enwau mawr megis, Toumani Diabate ac Youssou N'Dour. Yn ystod haf 2007 bu Bassekou Kouyate a'i fand Ngoni Ba a'r gantores, Amy Sacko, (a adnabyddir fel Tina Turner yr Affrig), yn diddanu cynulleidfaoedd ar draws gwyliau mawr Ewrop, ac eleni cewch gyfle i'w gweld yng Nghil-y-cwm.

Enillydd Albwm y Flwyddyn 2008, Gwobrau Cerddoriaeth Byd, Radio 3

"Cerddoriaeth sy'n codi'r ysbryd " medd Damon Albarn ... a Taj Mahal.

dychwelyd i dop y dudalen»

BEDOUIN JERRY CAN BAND (Egypt)

BEDOUIN JERRY CAN BAND (Yr Aifft)

Mae'r band yn tarddu o aniawlch y Sinai ac yn perfformio drwy gyfrwng barddoniaeth a chân. Mae'r band yn chwarae offerynnau traddodiadol yr ardal, sef y pibau a'r simsimiyya ac maent wedi creu offerynnau taro allan o hen ganiau a chreiriau milwrol a adawyd ar y Sinai yn sgil  Rhyfel Chwe Diwrnod 1967 rhwng yr Aifft ag Israel.

dychwelyd i dop y dudalen»

BRIGYN (Cymru)

BRIGYN (Cymru)

Daw y brodyr Ynyr ac Eurig Roberts o ogledd Cymru ac maent wedi bod yn canu ar lwyfannau Cymru ers blynyddoedd bellach.

Maent wedi perfformio yn y Sesiwn Fawr, Gwyl y Greenman, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwyl y Faenol ac i goroni'r cyfan 'di rhannu llwyfan gyda Jose Carreras a'r Incredible String Band.

Byddant yn rhyddau eu trydydd albwm "Brigyn 3" ym mis Mai.

CAN A TIR

Manylion i ddilyn..

CHAOS THEORY (Cymru)

gyda Cult of Osiris (PA byw)

Eleni bydd y llwyfan dawns yn symud i'r Ysgubor gyda Chaos Theory dan arweiniad Gareth Whittock. Mae Gareth yn enwog am ei nosweithiau yn y Monkey Cafe yn Abertawe.

dychwelyd i dop y dudalen»

FFYNNON (Cymru)

FFYNNON (Cymru)

Mae Lynne Denman wedi bod yn dehongli caneuon Cymreig, Saesneg a Ffrengig ar bump cyfandir, yn rhedeg gweithdai canu gwerin ac yn cydweithio yn aml gyda'r cyfarwydd Michael Harvey a'r cerddor Stacey Blythe.

Mae Stacey Blythe yn gerddor medrus ac yn chwarae'r acordion, soddgrwth, harpsichord, recorder, piano, telyn ac yn canu!

Ystyrir Chris O'Connor fel un o baswyr gorau Cymru, a bu'n  chwarae gyda'r Gareth Roberts Quintet, Burum, Fernhill, Fred Snow's Top Shelf Jazz a'i fand ei hun, Oi Sambistas.

GEORGIA RUTH WILLIAMS (Cymru)

GEORGIA RUTH WILLIAMS (Cymru)

Daw Georgia o Aberystwyth ond mae bellach yn astudio ym mhrifysgol Caergrawnt ac wedi amlygu ei hun fel cantores a thelynores. Doedd dim chwant arni chwarae y ffidil yn 7 mlwydd oed, felly aeth ati i daclo'r tannau. Dechreuodd arbrofi gyda swn mwy cyfoes o ganlyniad i'w hoffter o waith Bert Jansch a Davy Graham, ac addasu'u caneuon ar gyfer y delyn yn hytrach na'r gitar cyn dechrau cyfansoddi ei chaneuon ei hun.

Cyfansoddywr fel Nick Drake, St Vincent, Richard Thompson, Charlotte Gainsbourg, Teddy Thompson, Joan as Policewoman, Toumani Diabete, Nick Cave, Aimee Mann and Ani Difranco sydd wedi dylanwadu arni.

dychwelyd i dop y dudalen»

HQ (Cymru)

HQ (Cymru)

Mae H-Q Musiq yn torri tir newydd a chyffroi calon ac enaid Cyfuniad o eiriau Arabeg a Saesneg gydag elfennau R&B

Mae H-Q yn tarddu o gefndir Cymreig a Yemeni, ac wedi perfformio caneuon ysbrydol mewn nifer o wahanol lefydd yn y DU. Mae'n cymysgu elfennau Arabaidd traddodiadol gydag elfennau R&B cyfoes, sy'n adlewyrchu diwylliannau y dwyrain a'r gorllewin ar ei waith.

Mae ei gerddoriaeth a'I farddoniaeth yn ymestyn allan I bawb ac yn fodd I dynnu pobl o ddiwylliannau gwahanol at eu gilydd.

Dylanwadau lleisiol: Luther Vandross, y Michael Jackson cynnar, Umm Kulthoum, Abdul Halim Hafiz, Stevie Wonder, Boyz II Men, Sayid Hamza Shakoor, Mohammad Abdo, a mwy.

dychwelyd i dop y dudalen»

RAINY AND THE DUST (DU)

RAINY AND THE DUST (DU)

Ganwyd RAINY AND THE DUST yng ngorllewin Cymru ac maent yn boblogaidd iawn ymhlith y gymuned syrffio. Maent yn taflu elfennau ffync, lladin, affro a reggae I fewn I'r pair I greu swn dawnsiadwy iawn. Byddant yn brysur yn gigio mewn sawl gwyl dros yr haf, gan gynnwys yr Ynys Wydrin...Glastonbury - ichi plebs!

"Is this a new West Coast sound? Like Bill Withers on a surfboard or a slacker generation Paul Simon, Rainy's laid back grooves get under your skin."
Justin Adams (Robert Plant and The Strange Sensations)
"Soundtrack to the summer!"
Sophie Oliver,BBC Radio Bristol
SAMBA GALEZ (Cymru)

SAMBA GALEZ (Cymru)

Dyma un o fandiau samba cymunedol mwyaf Prydain gyda dros 60 o aelodau, dan arweinyddiaeth Simon Preston a dderbyniodd hyfforddiant ym Mrazil, Ciwba ac Affrica. Mae eu repertoire yn cynnwys seiniau Lladin America, Senegal a Thansania.

dychwelyd i dop y dudalen»

STEVE EAVES (Cymru)

STEVE EAVES (Cymru)

Angerdd, alaw ac awen, dyma'r nodweddion sy'n gwneud Steve yn un o brif gyfansoddwyr cyfoes Cymru. Ganed Steve Eaves yn 1952 yn Stoke-on-Trent, a bu'n byw mewn sawl ardal o ogledd Cymru cyn ymgartrefı yn ardal Bangor.

Mae ei albyms cyntaf yn cynnwys Viva La Revolucion Galesa! (EP, Stiwdio'r Felin, Felinheli, 1984), Cyfalaf a Chyfaddawd (LP, Sain, 1985) Sbectol Dywyll (LP, Stiwdio Les, Bethesda, 1989) Plant Pobl Eraill (LP, Ankst, 1990), Tir Neb (EP, er budd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1990), Croendenau (LP, Ankst, 1992), Y Canol Llonydd Distaw (LP, Ankst, 1996) a Iawn (LP, Sain, 2001).

Mae gan Steve Eaves rywbeth pwysig i'w ddweud, a hynny mewn ffordd gynnil a chofiadwy. Wedi'r cyfan dyma'r dyn wnaeth siwrnau ar y Traws Cambria  swnio fel y daith mwyaf rhamantus yng Nghymru! Mae ei albwm diweddaraf, 'Moel y Ci' wedi codi'r bar unwaith eto ac rydym yn disgwyl ymlaen yn eiddgar i'w weld yng Nghil-y-cwm.

Y REI (Cymru)

Y REI (Cymru)

Dyma brosiect diweddara' Aron Elias, gynt o Pep Le Pew. Mae'r band hefyd yn cynnwys aelodau o Gola Ola - Rich ac Alex.

Mae dylanwadau roc, metal, reggae a hip hop yn cyfrannu at swn unigryw Y Rei. Gwefreiddiol yw'r gair i ddisgrifo eu hymddangosiadau ar Bandit yn y gorffennol, gyda'r band yn cyfuno gallu technegol anhygoel hefo perfformiadau egnïol a lliwgar. Mi fydd albym cyntaf Y Rei - "Lawr y Lôn Goch", ar gael ddechrau'r flwyddyn.

 

Valid CSS! Valid XHTML 1.0 Transitional