Gwyl y Cenhedloedd Bychain 2008 : Gweithdai

gweithdai:

Bydd darpariaeth amrywiol o weithdai yng Nghil-y-cwm ar gyfer yr hen a'r ifanc eto eleni. Ar y dydd Sadwrn, bydd Justin Fellows yn hyfforddi'r drymwyr yn eich plith, tra bydd Boyd Erlam yn cynnal gweithdy'r Sul gydag offerynnau taro wedi'u hailgylchu o hen ddarnau o sgrap.

diweddarwyd: 13/06/2008 saesneg

gwener | sadwrn | sul | gweithdai | plant

Gallwch chi ferched ymarfer eich dawnsio bol gyda'r athrawes ddawns, Guinevere, a bydd cyfle i blant yn eu harddegau ymarfer judo gyda Geoff Mock. Cliff Eastabrook bydd yn diddanu drwy gyfrwng y stori a Vivienne Couch bydd yn hyfforddi'r llais. Cewch gyfle I ddysgu Cymraeg gyda'r athrawes Jean Hughes ac ar y Sul bydd Ken Day yn eich tywys am dro I fyny Cwm Rhaeadr. Os ichi yn teimlo angen i fyfyrio ar y Sul wedi anturiaethau'r penwythnos, bydd Norman Martell yn cymryd dau ddosbarth yoga. Ac os nad yw hynny yn ddigon peidiwch ac anghofio am y gweithdy chwerthin gyda Joe Hoare!

Taflu Tân , Gweithdy Llwyau , Dawnsio o Bersia

VIVIENNE COUCH, Gweithdy Canu Acappella

VIVIENNE COUCH

Gweithdy Canu Acappella

Mae Vivienne wedi bod yn cynnal gweithdai canu ar draws Cymru a Lloegr ers blynyddoedd. Mae'n credu bod canu harmoni yn falm I'r enaid ac yn gallu ysbrydoli'r unigolyn, a bod gan bob un ohonnom lais. Cewch gyfle I ganu caneuon o bob rhan o'r byd.

CLIFF EASTABROOK, Cyfarwydd

CLIFF EASTABROOK

Cyfarwydd

Pam bod bobl yn adrodd storiau, pam bod angen storiau, a sut dylid adrodd stori? Bydd cyfle ichi ymuno gyda'r cyfarwydd "Travelling Talesman" a defnyddio'ch dychymyg I greu chwedlau newydd.

Cliff yw cyfarwydd a baswr Merch y Felin .

Ddim yn addas I blant o dan 9 oed.

dychwelyd i dop y dudalen»

GUINEVERE, Dawnsio Bol

GUINEVERE

Dechreuodd Guinevere ddawnsio bol 14 mlynedd yn ol er mwyn lleihau poen cefn, erbyn heddiw mae'n athrawes gymwysiedig ac wedi cyhoeddi "The belly dancer's treasure pack". Mae'n awyddus iawn I hyrwyddo'r ddawns fel ffordd o gadw'n heini ac o godi'r ysbryd.

Dawnsio Bol Clasurol

Dysgwch dawnsio bol clasurol. Mae'r ddawns yn rhoi hwb I'ch corff a'ch hyder.

Merched yn unig.

Dawnsio Bol I gyfeiliant drymiau

Dyma gyfle I ymarfer eich symudiadau newydd I gyfeiliant bywiog y drymiau. Croeso I blant a dynion hefyd.

JUSTIN FELLOWS, Ryddmau diwydiannol

JUSTIN FELLOWS

Ryddmau diwydiannol

Mae Justin wedi bod yn drymio o gwmpas gwyliau, clybiau a digwyddiadau cerddorol drwy'r DU ac Ewrop ers blynyddoedd. Bydd y gweithdy yma yn wahanol I'r arfer eleni gan bod y ryddmau a ddysgir wedi'u seilio ar seiniau peirianwaith ffatrioedd gwlan y 19eg ganrif. Mae'r gyfansoddwraig o Landybie, Helen Adam, wedi cyfansoddi gwaith arbennig ar gyfer yr Wyl, o'r enw Merch y Felin a bydd cyfle I rheiny sy'n ymuno yn y wers drymio chwarae rhan yn y perfformiad yn hwyrach yn y diwrnod.

Ar gyfer oedolion a phlant dros 9 oed.

dychwelyd i dop y dudalen»

 JOE HOARE, Gweithdy Chwerthin

JOE HOARE

Gweithdy Chwerthin

Ffansio llond boled o chwerthin iach? Dewch draw I'r gweithdy chwerthin!

BOYD ERLAM, Seiniau sgrap a sbwriel

BOYD ERLAM

Seiniau sgrap a sbwriel

Daw Boyd Erlam o Abertawe ac mae'n gerddor cymunedol sy'n cynnal gweithdai yn y ddinas honno. Drwy gyfrwng darnau o sbwriel a sgrap bydd Boyd yn creu cerddorfa di-offeryn. Mae'r dosbarth yn addas ar gyfer oedolion a phlant dros 11 oed.

 MATT SMART & TOBY WALKER, Taflu Tân

MATT SMART & TOBY WALKER

Taflu Tân

Bydd Matt a Toby yn goleuo y nosweithiau gyda'u giamocs jyglo ac yn cynnal gweithdai syrcas yn ystod y dydd ar gyfer bob oedran

PAT & NED, Gweithdy Llwyau

PAT & NED

Gweithdy Llwyau

Cyfle I ymarfer eich sgiliau gyda'r cytleri, cewch gyfle I chwarae ambell jig, polka a'r hornbib. Darperir llwyau.

dychwelyd i dop y dudalen»

 GEOFF MOCK, Judo

GEOFF MOCK

Judo

Beth am drio jiwdo? Croeso i bobl o bob oedran a gallu, bydd Geoff yn siwr o'ch ystwytho. (Roedd e'n hyfforddwr i dim Prydain ar gyfer gemau Olympaidd Athens yn 2004.)

JEAN HUGHES

Dysgwch Gymraeg mewn awr

...

NORMAN MARTELL

Yoga

Sesiwn yoga - Beth am hwb i'r corff a'r enaid? Dyma gyfle i weithio ar yr osgo, technegau anadlu ac ymlacio dan oruchwyliaeth athro cofrestredig (Ashram Mandala). Dewch a blanced i gadw'n gynnes.

BAMO

Dawnsio o Bersia

Manylion i ddilyn..

Valid CSS! Valid XHTML 1.0 Transitional