Sdim byd gwell ganddynt i wneud â'u hamser?
Ymunodd Aled gyda ni yn 2006 ac er iddo cael ei daflu i fewn i gawdel mwdlyd tu hwnt, fe wnaeth jobyn arbennig iawn. Aled fydd yn gyfrifol am y masnachwyr eleni, felly cysylltwch gyda fe os ichi yn bwriadu dod a stondin i'r maes.
Amser maith yn ôl daeth Allison a'i theulu draw i Gil-y-cwm i fwynhau eu hun. Yn anffodus iddi hi, awgrymodd hi cwpwl o bethau ynglyn â sut i wella adnoddau'r plant. Doedd dim amdani felly, ond ei thynnu i fewn i'r trefniadau. Erbyn hyn mae'n aelod o'r Bwrdd, yn Reolwraig Gweithgareddau Plant ac yn weinyddwraig i'r ŵyl.
“...only seen three live bands in three festivals and always the first up on sunday morning!”
Diolch i Dduw am ddoniau dewinol Deniz! Ei waith caled ef sydd wedi gweddnewid ein gwefan. Wedi cwpwl o flynyddoedd yn gwirfoddoli fel stiward, ymunodd gyda'r pwyllgor yn 2006 ac un o'i dasgau oedd creu llecynnau gwyrdd ar gyfer y safle. Yn anffodus drodd y llecynnau gwyrdd yn lecynnau llacs yn 2007! Eleni, Deniz yw'r Tânfesitr, gwyliwch y gofod...
Dick yw sylfaenydd yr ŵyl ac heb ei ymroddiad a'i lafur cariad (a'i lafur caled) bydde dim gŵyl. Mae ei gysylltiadau gyda'r sîn miwisg byd wedi bod yn gaffaeliad mawr o'r dechrau, heb son am gefnogaeth a goddefgarwch Thelma wrth gwrs! Diolch Dick am dy ysbrydoliaeth.
“ This baby of mine struggled to survive its first 2 years, but with a fantastic nursing team it's now strong and healthy. Sometimes - like when it rains all day - I hate it, but I'm so proud of the joy we are able to bring to our regulars, and when the sun comes out and everyone is happy - it's the best! ”
Hudwyd Gaynor i'r tîm ychydig flynyddoed yn ôl, ar ôl iddi fynychu'r ŵyl yn gyson. Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn gyda'i chysylltiadau yn y cyfryngau ac wedi llwyddo i godi proffeil y Cenhedloedd Bychain ymhlith y Cymry Cymraeg. Mae'i hefyd yn helpu allan gyda'r wefan ac yn chwilio am artistiaid ar gyfer y penwythnos, sydd yn golygu bod rhaid iddi wrando ar oriau ac oriau o gerddoriaeth. Hei, mae bywyd yn galed weithiau!
Ymunodd Helen â ni yn 2007 ond ers iddi ymddangos, mae'i wedi helpu trefnu Gŵyl Dewi Drwg yn Llambed i ddathlu Mawrth 1af ac yn gyfrifol am drefnu holl weithdai penwythnos y Cenhedloedd Bychain. Rhwng trefnu gweithdai yoga a thaflu ffaglau tân bydd Helen hefyd yn perfformio darn comisiwn 'Merch y Felin'.
“ I am a working Welsh musician, who loves this festival for its exciting mix of local and international acts.I bring the ability to keep on fiddling and smiling in either sunshine or mud! ”
Am flynyddoedd lawer roeddwn ni gyd yn rhyfeddu ar ddawn cyfiethu Dick, gan ystyried bod ei ymgais i siarad iaith y nefoedd ddim wedi bod yn rhy lwyddiannus, (Yn ddiarwybod inni, roedd Huw Garan o Rhandirmwyn yn gwneud y gwaith). Yn 2007 ymunodd Huw â'r pwyllgor gan brofi bod dim angen cwsg ar gyfieithwyr yn ystod gwyliau cerddorol!
Cychwynodd Jason fel stiward yn y maes parcio, erbyn heddiw mae'r bachgen o Abertawe wedi cyflawni nifer o ddyletswyddau dros y blynyddoedd. Mae Jason wedi helpu gosod sylfaeni cadarn i'r ŵyl a diolch iddo am hynny a'i holl waith caled mewn glaw a hindda, (yn enwedıg yn y glaw).
Mae Julia wedi gwedd-newid delwedd y llwyfannau a'r safle drwy ei doniau creadıgol. Fe waneth hi a'i chyfeillion gweithio yn andros o galed llynedd i addurno'r safle gyda baneri, lluniau a cherfluniau lliwgar a chaen. Ychwanegodd hyn lawer at naws y safle.
Cynhyrchodd y ddau yma DVD cyntaf Cenhedloedd Bychain yn 2007, er mwyn hyrwyddo a chofnodi'r gweithgareddau. Maent yn aelodau ffyddlon a gweithgar o'r tîm ac wedi cynnig adborth a chyngor gwerthfawr i bawb. Maent hefyd yn darparu llety ar gyfer ein perfformwyr yn eu cartref hyfryd dros yr ŵyl. Os ichi yn chwilio am rhywle i dreulio penwythnos tawel yng nghefn gwlad Cymru ewch atynt ond nid ar benwythnos 11eg -13eg Gorffennaf 2008!
Bu Kari yn stiwardio yn yr ŵyl ers 2002. Bu'n cadeirio ein pwyllgorau ac yn gofalu am dai bach, ymysg pethau eraıll. Mae ei bys ar byls popeth a hi sydd yn rhoi trefn ar y stiwardiaid dros y penwythnos. Os ichi am wirfoddoli, cysylltwch gyda hi.
Dyma'r criw sy'n helpu Julia i addurno'r safle. Llwyddwyd i wedd-newid y lleoliad trwy eu doniau artistig yn 2007.
“ (small nations) is a great family friendly festival with wonderful music. The whole festival atmosphere is great. We really enjoyed working as part of the site decoration crew and being involved. ”
K & D
“Some of the music was a bit loud but I enjoyed helping the stewards and I'm looking forward to this year.”
SBeth ddaeth dros pennau'r ddau yma? Bob blwyddyn maent yn caniatau i rhyw 2000 o bobl dierth, dwl a difyr, dawnsio, dathlu a ... chysgu (diflanodd yr awen cyflythrennu, mae'n ddrwg 'da fi) ar ei fferm am benwythnos. Nhw yw'r cynta' lan a'r olaf i glwydo. Ai dyma beth yw ysytyr ymddeoliad?
Ymunodd Maya a'r Cenhedloedd Bychain yn 2007. Mae wastad sglein ar ei gwaith fel cynllunydd. A pham nad oes brwsh paent yn ei llaw mae'n troelli disgiau a bydd cyfle iddi wneud hynny eleni. hazymaizy
“ It is a pleasure to be involved with such a melting pot of cultures! ”
Dyma fachan ichi - does dim modd i'r dyn yma gerdded heibio Green Goddess heb brynu un! Rhys a'r plant yw asgwrn cefn y maes parcio. Mae eu hegni yn ddiffael, eu hafiaith yn ddi-derfyn a'u cotiau fflwresent yn ... ddi-chwaeth (ond hollol angenrheidiol!) Diolch rocesi a rocynnau.
Mae Ruth wedi treulio blynyddoedd yn trefnu Gŵyl Werin Pontardawe. Rydym wedi bod yn lwcus i dderbyn ei chymorth ar hyd y blynyddoedd. Mae hi a'i chriw yn rhedeg y llwyfan fel wats.
“(small nations) means being part of a festival family, we work, we enjoy, we laugh, we cry, but, hey, it's great!”
Gadewch inni gael un peth yn glir mae Thelma yn casau gwyliau cerddorol, ond ble fydden ni heb ei doethineb a'i phen busnes? DIOLCH YN FAWR Thelma, o waelod calon.
yn enwedig yr hen lawiau, sef: Rob F, Boyd, Rob, Nicola, Scott, Emma, Tofty, Chris, Laura, Rach, Adam, John, Imogen merched y bar, a,r rheolwyr llwyfan.
Diolch i Wil Theophilus, Dafydd Tomos ac Aled Edwards, ffermwyr cyfagos sydd wastad yn barod i estyn help llaw. Mae Aled yn ganwr o frî ac yn fridiwr gwartheg Limousin. Yn 2006 aeth â grŵp o ymwelwyr o amgylch ei fferm er mwyn rhoi blas o fywyd amaethyddol iddynt. Mae Dafydd yn gadeirydd y cyngor cymuned ac yn weithgar iawn yn yr ardal. Wil yw ein ffotograffydd swyddogol. Diolch yn fawr i Dafydd a Wil am y gwasanaeth towio penigamp yn 2007.
Cafwyd mwy o gwynion am ymddygiad John (Gog) Williams yn y blynyddoedd cynnar nac am unrhywun arall yn yr ŵyl .. a fe y'w'r MC! Serch hynny, llwyddwyd i ffrwyno ei "frwdfrydedd" dros y blynyddoedd, ond mae rhaid dweud does dim un Cymro arall yn gallu gwisgo cilt a shwd panache a'r gog afieithus hwn! Diolch hefyd i Chris (Warwick) wnaeth jobyn da iawn ar llwyfan y Dderwen yn 2007..
Emrys, Paul and Tom am eu lluniau, Andreas Viklund ,a Websites Network
Diolch yn fawr i bawb am bopeth!
© 2007–2008 Small Nations Music Ltd.