Anthony Lewis
DJ Kormac
Hyd yn hyn, rym ni wedi denu DJ Kormac o Ddulyn, sydd wedi ei ganmol gan adolygwyr dylanwadol ledled y byd. Cymysgedd o guriadau hip-hop ymlaciedig a seiniau mwy llon sy'n nodweddu ei gerddoriaeth.
EMW
Galanastra
Ffurfiwyd Galanstra yn 2007, allan o luwch sawl band annelwig bu’n chwarae o gwmpas Abertawe. Maent yn cymhathu seiniau pync, ska a gwerin ac wedi ymddangos ar sioe radio Adam Walton ac mewn nifer o wyliau lleol yn ystod 2010. Galwyni o chwerw sy’n sicrhau yr awen!
Jack Moyle
Joe Weston
Kerekes
Mae'n wych bod gennym gynrychiolaeth o ganolbarth Ewrop eleni, o ganolfan ymerodraeth yr Hapsburgs daw Kerekes i'n plith gan chware fersiwn mittelewropa o'r blws - meddyliwch am Jimmy Hendrix yn cwrdd a'r pibydd brith ar amffetamin ... umm...pell mas ddyn.
Mae synau gwerin ardaloedd anhysbell Transylfania a Moldofa wastad wedi fy nghyffroi. Dyma lle mae gorllewin a dwyrain yn cwrdd gan greu pair diwylliannol lliwgar, herfeiddiol a hynod. Ac mae'r elfen wyllt yma i'w glywed yn y gerddoriaeth 'ma.
MC Shrubbery
Mordekkers
Dyma un o fandiau prysuraf y gorllewin, sydd yn cymsygu alawon traddodiadol, y mandola a'r pibau gyda ryddmau bas cryf .
Mose Fanfan
Ymhlith prif artistiaid gŵyl 2011 fydd un o gitaryddion gorau Affrica, Mose Fanfan, a chwaraeodd ran allweddol yn natblygiad y sain 'rumba congolaise' glasurol Ym 1974, ffurfiodd Mose Somo Somo, supergroup ei gyfnod, yn Kinshasa. Yn swyddogol, dim ond 4 record 7" ddwyochrog rhyddhaodd y grŵp, ond roedd hyn yn ddigon i sicrhau statws cwlt i'r grŵp am byth.
Mr Huw
Yn recordio o’i ogof yng ngogledd Cymru ers 2007, mae’r anghydffurfiwr mr huw (Huw Owen) yn plymio i ddyfnderoedd na fyddai’r dychymyg tywyllaf yn meiddio mynd yn agos iddynt. Yn recordio popeth ei hun ar 8 trac ymhlith peiriannau hynafol eraill, mae’n cyfuno curiadau electroneg gyda synau amrwd a melodïau pop cofiadwy.
Llwyddodd albym gyntaf mr huw ‘Llond Lle o Hwˆ rs a Lladron’ i gyrraedd rhif 18 yn rhestr 50 o bethau gorau 2008 bandage.com, ac enillodd ei ail albym ‘Hud a Llefrith’ wobr Albym y Flwyddyn yng Ngwobrau Roc a Phop C2 BBC Radio Cymru 2010. Enillodd hefyd y wobr am Sesiwn Fyw y Flwyddyn wrth berfformio gyda’i fand.
Wedi’i gynhyrchu yn hollol annibynnol, ‘dirty north walians / gogleddwyr budur’ yw’r gwaith cyntaf i mr huw ryddhau yn Saesneg, ac mae ei ddull recordio wedi esblygu unwaith eto wrth ei chynhyrchu. Mae’n parhau i herio genre a gwthio ffiniau, gan gyfuno a threfnu offerynnau, melodïau a geiriau’n effeithiol gyda chryn ddychymyg, synnwyr digrifwch tywyll a mynegiant cerddorol crefftus.
Mya Mitten
Nik Turner
Panda Su
Mae Panda Su, offerynwraig sy'n byw yn ddwfn yng nghoedwigoedd gogledd-ddwyrain Fifew wedi ei henwi'n Newydd-ddyfodiad Gorau yn Arolwg Jockrock o ddiwydiant cerddoriaeth yr Alban. Mae Panda Su wedi'i chymharu â'r artist o Ffrainc Coco Rosie, yn ogystal ag â Florence and the Machine a Cat Power.
Rainy and The Dust
Mae'r Wyl yn hen gyfarwydd a thywydd gwael y blynyddoedd diwethaf ond bydd 'na groeso gwresog I 'r gawod gerddordol yma – Rainy and the Dust.
Bu'r band 'da ni rhyw 3 blynedd yn ol a chafwyd perfformiad penigamp, un o'r setiau hynny sy'n parhau yn y cof am blynyddoedd. Maent yn hen gyfarwydd a chwarae ar y syrcit byw ac mae set yn gymysgedd godidog o alawon heulog a chwarae deinamig.
Croeso nol Rainy!
Sub-Concious
Super Cute Voices
Efallai ichi gofio set drydanol, gorffwyll a gwyllt SCV yn yr wyl llynedd.
Pwy all anghofio y fath berfformiad?
Pwy all anghofio y fath orfoledd?
Pwy all anghofio y fath ofeyrols?
Bydd eu cymysgedd o pync, pop a synth yn siwr o roi sgytwad i'ch esgyrn.
Gochelwch! Paratowch! Am y tsunami cerddorol.
Trwbador
Daw Angharar ac Owain o'r gorllewin gwyllt,, ond mae eu sain yn llawn elfennau soffistigedig. Buont yn chwarae yn Ngwyl Swn ac yn Llundain yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae eu cerddoriaeth unigryw yn cael tipyn o sylw ar C2 Radio Cymru a Radio Wales.
"Paid â chodi pais ar ôl piso"
"Angharad and Owain hail from west Wales. There's a wide-eared wonder and playfulness to their sound as if they were deserted at birth and raised by the instruments in the school music cupboard." ADAM WALTON BBC RADIO WALES

